Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mawrth 2021
Amser:
13.30 -
16.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11155
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Jon Parker, Seafish Cymru ac Aquaculture Industry Wales Ltd James Wilson, Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Lorna Scurlock (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
2 Gwaith gwaddol: dyframaethu
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor Cyf, a Seafish Cymru ac Aquaculture Industry Wales Ltd.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Ymateb oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i adroddiad y Pwyllgor: Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22
3.2 Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021
3.3 Gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â thlodi tanwydd
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 6 o'r cyfarfod heddiw
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gwaith gwaddol: dyframaeth – trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2; a thrafod gwaith gwaddol y Pwyllgor ymhellach
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 2 a thrafododd ei waith gwaddol.
6 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)
6.1 Cafodd yr Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu).
7 Gwaith gwaddol: pysgodfeydd
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cadeirydd, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Gwaith gwaddol: pysgodfeydd – trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 7
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 7.